Gwnewch wahaniaeth i gymunedau a’r gymdeithas ehangach gyda’n graddau blaengar mewn Cymdeithaseg, Gwaith a Pholisi Cymdeithasol ym Met Caerdydd.
Byddwn yn datblygu eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder yn eich pwnc dewisol a’ch dyheadau gyrfaol – o weithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol neu ddod yn gynghorydd gwleidyddol neu gymdeithasegydd, i gymhwyso fel Gweithiwr Cymdeithasol proffesiynol neu Weithiwr Ieuenctid a Chymunedol. Mae opsiynau astudio amser llawn a rhan-amser hyblyg ar gael, gan gynnwys graddau Sylfaen, HND, BA/BSc.
01 - 04
Dysgu Ymarferol
Mae cyflogadwyedd a dysgu sy’n seiliedig ar waith wedi’u hymgorffori yn ein graddau. O leoliadau profiad gwaith a chyfleoedd dysgu ymarfer, i weithio ar friffiau byw a osodwyd gan ddiwydiant, yn ogystal â phrofiadau gwaith gwirfoddol dewisol a theithio dramor gyda chyfleoedd byd-eang.
Graddau Proffesiynol ac Achrededig
Mae ein holl gyrsiau yn cael eu datblygu ar y cyd â diwydiant, cyrff proffesiynol, grwpiau defnyddwyr gwasanaeth ac arbenigwyr academaidd, gyda’n graddau Gwaith Cymdeithasol a Gwaith Ieuenctid a Chymunedol yn cael eu hachredu gan Gofal Cymdeithasol Cymru, a Safonau Addysg Hyfforddiant Cymru.
Wedi’ch Addysgu gan Arbenigwyr
Byddwch yn cael eich addysgu gan siaradwyr gwadd a staff addysgu sy’n weithgar ym maes ymchwil sydd ag arbenigedd proffesiynol sylweddol, a byddwch yn cael y cyfle i ddatblygu cysylltiadau rhwydweithio diwydiant hanfodol yn ystod eich cyfnod gyda ni.
01 - 04
Achrediadau ac Aelodaeth Broffesiynol
Sylwer: nid yw pob achrediad ac aelodaeth broffesiynol yn berthnasol i bob cwrs a restrir isod. Ewch i dudalennau cyrsiau unigol i gael rhagor o wybodaeth.