Ym Met Caerdydd, rydym wedi bod yn darparu graddau Addysg, Blynyddoedd Cynnar ac Addysgu Cynradd ers dros 75 mlynedd ac rydym yn cael ein cydnabod fel un o’r canolfannau addysg a hyfforddiant cychwynnol i athrawon mwyaf yn y DU.
Mae ein portffolio cyffrous o raddau sy’n canolbwyntio ar gyflogadwyedd yn cael eu darparu gan staff sy’n weithgar ym maes ymchwil ac ymarferwyr proffesiynol. Mae gan ein holl gyrsiau leoliadau profiad gwaith gorfodol, sy’n rhoi cyfle i chi ennill profiadau gwaith allweddol mewn ysgolion a lleoliadau addysg amgen. Gyda mynediad at gyfleusterau ardderchog ar y campws, byddwch yn graddio gyda’r wybodaeth a’r sgiliau ymarferol sy’n angenrheidiol ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.
01 - 04
Ein Cyfleusterau
Mae ein hystod helaeth o gyfleusterau addysgu arbenigol yn rhoi cyfleoedd hanfodol i chi ar gyfer dysgu sy’n seiliedig ar ymarfer ar y campws. Mae’r cyfleusterau’n cynnwys ein Canolfan Ddysgu Awyr Agored a gweithdai coetir, celf a dylunio, labordai gwyddoniaeth a seicoleg, stiwdio gerddoriaeth a Thŷ Froebel.

Partneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) – Cydweithio ag athrawon, ar gyfer athrawon, fel athrawon, i ysbrydoli meddyliau dyfodol Cymru.
01 - 01
Astudio yn Gymraeg
Rydym wedi ymrwymo i wella sgiliau iaith Gymraeg ein myfyrwyr ac yn cynnig opsiynau astudio gradd ddwyieithog ym Met Caerdydd.
Mae amryw o lwybrau dilyniant gan gynnwys gradd meistr mewn addysg, ac astudiaeth TAR ar gael ar ôl graddio. Rydym hefyd yn falch o warantu cyfweliad i holl gyn-fyfyrwyr Met Caerdydd sy’n bodloni’r meini prawf mynediad, ar gyfer ein cwrs Cynradd TAR cystadleuol iawn.
Sylwer: nid yw pob achrediad ac aelodaeth broffesiynol yn berthnasol i bob cwrs a restrir isod. Ewch i dudalennau cyrsiau unigol i gael rhagor o wybodaeth.