Skip to content

Gwaith Cymdeithasol - Gradd BSc (Anrh)

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Newidiwch fywydau a chymhwyswch fel Gweithiwr Cymdeithasol cofrestredig.

Mae Gwaith Cymdeithasol yn broffesiwn heriol a gwerth chweil sy'n cynnwys gweithio'n agos gydag unigolion, teuluoedd a chymunedau o enedigaeth hyd at ddiwedd oes. Mae Gweithwyr Cymdeithasol yn gweithio ochr yn ochr ag unigolion i wella eu bywydau a hyrwyddo eu lles. Os oes gennych angerdd dros hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol a herio anghydraddoldeb, yna'r radd hon yw'r un i chi.

Mae'r radd BSc (Anrh) Gwaith Cymdeithasol ym Met Caerdydd yn anelu at eich datblygu fel gweithiwr proffesiynol gyda stoc clir o sgiliau craidd, gwybodaeth a gwerthoedd sy'n ofynnol i ymarfer fel gweithiwr cymdeithasol. Gweithiwr proffesiynol sy'n cyfathrebu'n effeithiol ag unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau a gweithwyr proffesiynol eraill, yn aml mewn amgylchiadau cymhleth a heriol, gyda'r nod o hyrwyddo hawliau unigolion, teuluoedd a chymunedau, gan wella lles y bobl y maent yn gweithio gyda nhw.

Mae'r radd Gwaith Cymdeithasol hon wedi'i hachredu gan Gofal Cymdeithasol Cymru a bydd yn eich paratoi i weithio o fewn ystod o leoliadau gwaith cymdeithasol. Byddwch yn dysgu ac yn myfyrio ar y materion cymdeithasol allweddol sy'n effeithio ar bobl sy'n defnyddio gwasanaethau. Cyflwynir y cwrs mewn partneriaeth â chyflogwyr Awdurdodau Lleol ac ym mhob blwyddyn astudio byddwch yn cwblhau cyfle dysgu ymarferol a fydd yn eich galluogi i integreiddio'ch dysgu i ymarfer. Drwy bob cyfle dysgu ymarferol, byddwch yn dysgu sut i ddelio'n broffesiynol â chymhlethdod bywydau pobl mewn modd sensitif a grymuso.

Ar ôl cwblhau eich astudiaethau academaidd a'ch cyfleoedd dysgu ymarferol yn llwyddiannus, byddwch yn graddio gyda BSc (Anrh) Gwaith Cymdeithasol a'r cymhwyster proffesiynol sy'n eich galluogi i wneud cais i gofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol cymwys, gyda Gofal Cymdeithasol Cymru neu un o'r cyrff rheoleiddio eraill yn y DU a thramor.

Fel Rhaglen a Reoleiddir yn Broffesiynol mae’n ofynnol i bob myfyriwr Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Bydd myfyrwyr cymwys yn cael eu henwebu ar gyfer bwrsariaeth Gofal Cymdeithasol Cymru ar y pwynt mynediad i’r rhaglen. Mae rhagor o wybodaeth am fwrsariaethau myfyrwyr ar gael ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.

Blwyddyn Un (Lefel 4)

Y ffocws ar y lefel hon yw Cyflwyniad a Sylfaen. Yn Semester 2 byddwch yn cwblhau 20 diwrnod (140 awr) o ddysgu ymarferol.

Byddwch yn cael eich cyflwyno i ddeddfwriaeth a pholisi cymdeithasol sy'n sail i ymarfer gwaith cymdeithasol ac yn dechrau datblygu eich persona proffesiynol ochr yn ochr â dysgu am rôl Gwaith Cymdeithasol mewn cymdeithas gyfoes wrth astudio datblygiad dynol hefyd. Bydd cyfle i chi fyfyrio ar eich datblygiad drwy diwtorialau grŵp a datblygu eich sgiliau gan ddefnyddio efelychiadau yn y dosbarth.

Mae'r modiwlau y byddwch yn eu hastudio yn cynnwys y canlynol:

  • Cyflwyniad i Waith Cymdeithasol Proffesiynol – 20 credyd
  • Sgiliau a Gwerthoedd ar gyfer Ymarfer Gwaith Cymdeithasol – 20 credyd
  • Yr Ymarferydd sy'n Dod i'r Amlwg – 20 credyd
  • Cyflwyniad i'r Gyfraith a Pholisi Cymdeithasol – 20 credyd
  • Cyflwyniad i Asesu – 20 credyd
  • Twf a Datblygiad Dynol – 20 credyd

Blwyddyn Dau (Lefel 5)

Y ffocws ar y lefel hon yw Cymhwyso Gwybodaeth, Sgiliau a Gwerthoedd ar Ymarfer. Byddwch yn cwblhau chwe modiwl 20 credyd gan adeiladu ar y wybodaeth a'r profiad rydych wedi'u hennill o lefel 4.

Byddwch yn ymgymryd â chyfle dysgu ymarfer 80 diwrnod (560 awr) yn llawn amser yn Semester 2 a fydd yn rhoi cyfle i chi gymhwyso'r wybodaeth a'r sgiliau a ddysgwyd gennych mewn lleoliad ymarfer.

Mae'r modiwlau y byddwch yn eu hastudio yn cynnwys y canlynol:

  • Cymhwyso Cyfraith a Pholisi Cymdeithasol – 20 credyd
  • Damcaniaethau Gwaith Cymdeithasol i Ymyrryd – 20 credyd
  • Gwaith Cymdeithasol sy'n Seiliedig ar Dystiolaeth – 20 credyd
  • Yr Ymarferydd Myfyriol – 20 credyd
  • Cyd-gynhyrchu ar Waith – 20 credyd
  • Ymarfer sy'n Canolbwyntio ar Ganlyniadau – 20 credyd

Blwyddyn Tri (Lefel 6)

Ffocws astudiaethau yn eich blwyddyn olaf yw datblygu a chadarnhau cymhwysedd. Byddwch yn cwblhau dau fodiwl 20 credyd a dau fodiwl 40 credyd.

Byddwch yn treulio hanner cyntaf semester 1 yn y brifysgol cyn cychwyn ar eich cyfle dysgu ymarfer 100 diwrnod (700 awr) olaf. Bydd addysgu'r modiwlau'n archwilio cymhlethdod ymarfer gwaith cymdeithasol o fewn yr 21ain Ganrif.

Mae'r modiwlau y byddwch yn eu hastudio yn cynnwys:

  • Ymarfer Gwaith Cymdeithasol mewn Cyd-destun – 40 credyd
  • Cymhwyso Ymarfer sy'n Seiliedig ar Dystiolaeth – 40 credyd
  • Yr Ymarferydd Cymwys – 20 credyd
  • Tueddiadau sy'n Dod i'r Amlwg mewn Gwaith Cymdeithasol – 20 credyd

Mae'r BSc (Anrh) Gwaith Cymdeithasol yn rhaglen amser llawn a gyflwynir dros ddau ddiwrnod gyda thri diwrnod wedi'u neilltuo ar gyfer astudiaeth hunangyfeiriedig yr wythnos tra byddwch yn y brifysgol. Ar Lefel 5 a Lefel 6, mae'r cyfleoedd dysgu ymarferol yn llawn amser lle byddwch yn mynychu'ch lleoliad bum niwrnod yr wythnos.

Bydd cymysgedd o brofiadau dysgu cyfunol, darlithoedd, seminarau, gwaith grŵp, tiwtorialau, ymchwil/astudio annibynnol a dysgu seiliedig ar waith yn eich galluogi i fyfyrio ar eich dysgu a nodi nodau dysgu ar gyfer y dyfodol.

O fewn y modiwlau, byddwch yn cael y cyfle i brofi eich gwybodaeth a'ch sgiliau mewn amgylchedd diogel drwy ddefnyddio efelychiadau a chwarae rôl.

Byddwch yn cael cefnogaeth bellach yn eich dysgu drwy'r amgylchedd dysgu rhithwir 'Moodle'.

Ar ddechrau eich astudiaethau, byddwch yn cael eich neilltuo i diwtor personol a byddwch yn cael eich neilltuo i grŵp datblygiad proffesiynol a fydd yn gwella eich dysgu a'ch datblygiad fel gweithwyr proffesiynol sy'n ffynnu. Byddwch hefyd yn cael eich dyrannu i 'asiantaeth groesawu' a fydd yn gweithio gyda chi i ddyrannu eich cyfleoedd dysgu ymarfer.

Treulir rhan sylweddol o'r cwrs mewn lleoliadau ymarfer o fewn asiantaethau yn Ne Cymru; felly, bydd y gallu i deithio i asiantaethau ymarfer ac o fewn asiantaethau ymarfer yn fanteisiol.

Tra byddwch ar y radd gwaith cymdeithasol, mae hefyd yn ofynnol i chi ddangos y gallwch ddefnyddio dulliau a thechnegau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) i gefnogi eich dysgu a'ch ymarfer.

Mae'r holl staff sy'n addysgu ar y rhaglen yn Weithwyr Cymdeithasol cymwys ac yn dod â chyfoeth o brofiad o weithio o fewn y proffesiwn gyda nhw.

Tra byddwch yn ymarfer, byddwch yn cael Addysgwr Ymarfer a fydd yn Weithiwr Cymdeithasol cymwys. Byddant yn rhoi goruchwyliaeth i chi drwy gydol eich cyfle dysgu ymarferol ac yn eich cefnogi i integreiddio damcaniaeth i ymarfer.

Bydd asesu meysydd astudio unigol yn cynnwys cyfuniad o wahanol ddulliau: trwy ddysgu ymarferol, ymarferion efelychu/astudiaethau achos, traethodau ac aseiniadau, adroddiadau, cyflwyniadau poster, cyflwyniadau grŵp ac unigol a thraethodau amseredig. Mae yna lefel o amrywiaeth yn yr asesu a chaiff dewisiadau myfyrwyr eu harfer ar wahanol adegau drwy gydol y rhaglen. Byddwch yn cael eich annog i gysylltu asesiadau crynodol â'ch profiadau cyfle dysgu ymarferol lle bo'n briodol.

Yn ogystal â'r asesiadau academaidd, mae'n ofynnol i chi gynhyrchu portffolios sy'n gysylltiedig â'ch dysgu ymarferol, sy'n cynnwys arsylwadau o ymarfer a chyfrifon myfyriol yn seiliedig ar yr arsylwadau. Bydd eich addysgwr ymarfer yn rhoi adborth llafar ac ysgrifenedig i chi. Tra byddwch yn ymarfer, byddwch yn cael eich asesu yn erbyn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Cymdeithasol a'r Cod Ymarfer Proffesiynol.

Byddwch yn derbyn adborth electronig ac adborth ymlaen llaw i'r holl waith a asesir yn academaidd ac fe'ch anogir trwy'r broses tiwtorial personol well i adolygu adborth ac adeiladu sgiliau gwaith cymdeithasol academaidd ac ymarferol.

Mae'n ofynnol i chi basio'r dysgu academaidd a'r dysgu ymarferol er mwyn prosesu.

Ar ôl cwblhau gradd BSc (Anrh) Gwaith Cymdeithasol a’r holl gyfleoedd perthnasol dysgu academaidd a dysgu brofiad drwy brofiad, bydd graddedigion yn gallu cofrestru fel ymarferwyr Gwaith Cymdeithasol a chael mynediad i ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth ym maes gwaith cymdeithasol y sectorau statudol, annibynnol a’r trydedd sector. Gall graddedigion gael gwaith gyda phobl ag anghenion gofal cymdeithasol a’u gofalwyr sy’n defnyddio ystod o waith cymdeithasol a gwasanaethau gofal cymdeithasol sy’n mynd i’r afael â materion ac anghenion cymdeithasol cymhleth.

Mae rhagolygon gyrfa yn rhagorol, ac mae'r radd yn caniatáu ichi weithio ar draws gwahanol sectorau fel gwasanaethau plant a theuluoedd, gwasanaethau oedolion, iechyd meddwl yn y sectorau statudol neu breifat a gwirfoddol. 

Bydd gofyn hefyd i raddedigion ddilyn Addysg a Dysgu Proffesiynol Parhaus yn eu gyrfa ym maes Gwaith Cymdeithasol ac efallai’n dewis astudio am gymhwyster ôl-radd, er enghraifft addysgu ym maes addysg bellach/uwch neu gwrs Meistr neu Ddoethuriaeth mewn Gwaith Cymdeithasol. Mae cyfleoedd hefyd tu allan i faes Gwaith Cymdeithasol.

Cynigion Nodweddiadol

  • Pwyntiau tariff: 96
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Yn ddelfrydol, pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys graddau CCC. Does dim angen pynciau penodol. Bagloriaeth Cymru – Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: MMM
  • Lefel T: Pasio (C+).
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): Does dim angen pynciau penodol.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: 2 x H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Graddau DD. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers
  • NVQ perthnasol ar Lefel 3 neu 4 mewn gwaith cymdeithasol/maes pwnc gofal cymdeithasol perthnasol.
  • Gofynion eraill: Cyfweliad llwyddiannus a'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd - DBS. Mae angen i ymgeiswyr fodloni gofynion y DBS a bodloni gofynion cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Cyfeiriwch at y tab Profiad isod am fwy o fanylion.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Dylai myfyrwyr sy’n dymuno astudio’r cwrs hwn yng Ngholeg Penybont ddewis ‘Penybont’ fel lleoliad astudio ar eu cais UCAS.

Cydnabod Dysgu Blaenorol

Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio credyd gan sefydliad arall, neu os ydych wedi ennill cymwysterau a/neu brofiad i astudio ar gyfer cwrs ym Met Caerdydd, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn yn ogystal â gwybodaeth am sut i wneud cais ar y dudalen RPL.

Os ydych chi'n ymgeisydd hŷn, a bod gennych chi brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.

Gweithdrefn Dewis a Chyfweld

Fel arfer, mae'r dewis ar sail cais UCAS wedi'i gwblhau a chyfweliad unigol. Cynhelir cyfweliadau ar-lein ar hyn o bryd drwy Microsoft Teams. Byddwch yn derbyn hysbysiad o ddyddiad eich cyfweliad drwy UCAS a thrwy e-bost gan Brifysgol Fetropolitan Caerdydd. Yna byddwch yn derbyn gwahoddiad i Teams, gyda'ch amser cyfweliad penodol, gan dîm y rhaglen. Cyn eich cyfweliad mae'n ofynnol i chi gwblhau tasg ysgrifenedig a ffurflen hunan-ddatganiad.

Cyfweliad Unigol

Bydd eich cyfweliad unigol yn para tua 15-20 munud ac fe’i cynhelir gan aelodau staff academaidd Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Choleg Penybont, ochr yn ochr ag ymarferwyr gwaith cymdeithasol ac unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol, sy’n ymwneud â’r Rhaglen. Anogir ymgeiswyr i ymgyfarwyddo â’r wybodaeth ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru sy’n ymwneud â Chod Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer Gofal Cymdeithasol (2017), a deddfwriaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Gofynion Profiad

Mae’n ofynnol i ymgeiswyr fod wedi cael rhywfaint o brofiad gwaith mewn lleoliad gofal cymdeithasol. Nid oes terfyn amser o ran pryd y cwblhawyd y profiad gwaith hwn, ond byddai profiad mwy diweddar yn cryfhau eich cais.

Mewn amgylchiadau eithriadol, bydd y rhaglen hefyd yn ystyried yr ymgeiswyr hynny sydd â phrofiad personol fel unigolyn ag anghenion gofal cymdeithasol neu fel gofalwr. Er enghraifft, ceisiadau gan unigolion sydd wedi bod yn brif ofalwr, ar sail sylweddol a rheolaidd, i berthynas, ffrind, neu gymydog neu blentyn/person ifanc sy’n derbyn gofal gan yr Awdurdod Lleol – hynny yw, person â phrofiad o fod mewn gofal. Mewn amgylchiadau o’r fath, gellir cryfhau ceisiadau â phrofiad ychwanegol o wirfoddoli/gofal cymdeithasol â thâl hefyd.

Gellir ennill profiad mewn ystod eang o rolau â thâl neu wirfoddol ym maes gofal cymdeithasol:

  • Gyda phlant a theuluoedd mewn lleoliadau gofal cymdeithasol megis Dechrau’n Deg, timau Awdurdodau Lleol, Gweithredu dros Blant, Barnardo’s a chartrefi preswyl.
  • Gydag oedolion mewn lleoliadau gofal cymdeithasol megis Timau Oedolion Awdurdodau Lleol, llety â chymorth, cartrefi preswyl/nyrsio, elusennau sy’n gweithio gyda phobl ag anableddau; elusennau trais domestig, gwasanaethau digartrefedd a sefydliadau camddefnyddio sylweddau.
  • Mewn lleoliadau cwnsela neu weithio un-i-un mewn lleoliadau gwaith ieuenctid a chymunedol.
  • Mewn lleoliadau addysg lle mae’r rôl yn ymwneud â gwaith uniongyrchol gyda phlant ag anghenion ychwanegol neu’n gweithio mewn addysg brif ffrwd a/neu feithrinfeydd/crèches.

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu anfon e-bost at holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau penodol i’r cwrs, cysylltwch â’r Uwch Ddarlithydd BSc (Anrh) Gwaith Cymdeithasol, Suzanne Gannon-Lewis:

E-bost: sgannon-lewis@cardiffmet.ac.uk

  • Cod UCAS

    L501

  • Lleoliad

    Campws Llandaf neu Coleg Penybont

  • Ysgol

    Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

  • Hyd

    3 blynedd yn llawn amser.

Rydyn ni'n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â'r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu'r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae'n cadw'r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o'r fath yn angenrheidiol. I gael y wybodaeth lawn, darllenwch ein Telerau ac Amodau.

100%

o raddedigion mewn gwaith neu astudiaethau pellach o fewn 15 mis ar ôl graddio (Arolwg Hynt Graddedigion 2024)