Skip to content
Ymunwch â ni ym mis Medi. Gwneud cais drwy Glirio

Rheoli Busnes Rhyngwladol - Gradd Meistr MSc/PgD/PgC

Gwnewch Gais Nawr

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Llwybrau sydd ar gael:

  • MSc Rheoli Busnes Rhyngwladol
  • MSc Rheoli Busnes Rhyngwladol (Rheolaeth Gyhoeddus)

Archwiliwch gyfleoedd a heriau economi fyd-eang heddiw wrth ennill y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i lwyddo i weithio’n draws-ddiwylliannol ym myd cyflym busnes rhyngwladol.

Mae ein MSc Rheoli Busnes Rhyngwladol arloesol arobryn ym Met Caerdydd yn cyfuno’r meddylfryd diweddaraf ag adolygiad cynhwysfawr o arferion busnesau modern, gan gynnig cyfres o fodiwlau creadigol sy’n procio’r meddwl ac sy’n mynd i’r afael â’r dadleuon mwyaf cyfredol ym myd busnes rhyngwladol.

Cewch gyfle i ennill persbectif byd-eang gyda chynaliadwyedd, cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol a gwneud penderfyniadau moesegol yn rhan annatod o’r cyfan. Drwy gadw ffocws cryf ar eich llwyddiant, rydym wedi ymrwymo i’ch helpu i gyrraedd eich llawn botensial gydag amgylchedd dysgu cefnogol.

Ehangwch eich profiad dysgu trwy ddarlithoedd gwadd a gyflwynir gan academyddion blaenllaw ac arbenigwyr busnes, gan roi gwybodaeth arbenigol werthfawr a mewnwelediadau ymarferol i chi o’u profiad yn y byd go iawn. A gwella eich sgiliau digidol a dysgu sut i ddefnyddio technolegau digidol gwahanol.

Y tu hwnt i academyddion, byddwn yn sicrhau eich bod yn barod am yrfa cyn i chi raddio gyda’n rhaglen datblygiad personol a phroffesiynol cwbl integredig. Mae mentora arbenigol, arweiniad personol, a thîm addysgu bywiog, amrywiol a chymuned myfyrwyr yn aros i’ch croesawu.

 

Graduate Futures Institute Postgraduate Employability Winner 2026 Logo

ENILLYDD Gwobrau Cyflogadwyedd Academaidd Sefydliad Dyfodol Graddedigion 2026

#WeAreInternational Awards 2026 Finalist badge

TEILYNGWR Gwobr Cymorth i Fyfyrwyr Eithriadol (Profiad Academaidd) yng Ngwobrau #WeAreInternational 2026 gan UKCISA

01 - 04

MSc Rheoli Busnes Rhyngwladol

Cwblhewch y 120 credyd o fodiwlau gorfodol a ddysgwyd:

Modiwlau gorfodol (20 credyd yr un)

  • Yr Economi Fyd-eang: Masnach a Chyllid Rhyngwladol
  • Busnes Rhyngwladol yn y Gymdeithas Ddigidol
  • Materion Gwleidyddol Cyfoes mewn Busnes Rhyngwladol
  • Strategaethau Busnes Rhyngwladol
  • Cynaliadwyedd Corfforaethol Byd-eang
  • Datblygiad, Ymarfer a Pherfformiad Proffesiynol

Dewiswch UN modiwl dewisol a addysgir (20 credyd yr un)

  • Chwilio am Greadigedd, Arloesedd a Gwahaniaeth
  • Cyfeiriad Strategol Byd-eang a Rheoli Newid
  • Rheoli Heriau Byd-eang
  • Busnes Rhyngwladol Ar Draws Diwylliannau
  • Diwygio a Rheoli’r Sector Cyhoeddus

Dewiswch UN modiwl prosiect terfynol (40 credyd yr un)

  • Prosiect Ymchwil Rhyngwladol
  • Prosiect Ymgynghori
  • Cynllun Busnes

 

MSc Rheoli Busnes Rhyngwladol (Rheolaeth Gyhoeddus)

Ydych chi’n frwd dros siapio dyfodol y gwasanaethau cyhoeddus?

Mae ein llwybr Rheolaeth Gyhoeddus yn cynnig y cyfle i arbenigo mewn rheolaeth y sector cyhoeddus tra’n dod yn fedrus yn ogystal â chael gwybodaeth hanfodol ym maes rheolaeth busnes rhyngwladol.

Taclwch rhai o’r heriau mwyaf sy’n wynebu sefydliadau’r sector cyhoeddus yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang a chwilio am sut y gall llywodraethau a chorfforaethau cyhoeddus ddiwygio i wella gwasanaethau.

Cewch hefyd ddysgu sut i greu strategaethau hirdymor sy’n ystyried anghenion cenedlaethau’r dyfodol, gan symud tuag at gynaliadwyedd hirdymor.

Cwblhewch y 140 credyd o fodiwlau a ddysgwyd gorfodol ac un o’r modiwlau prosiect terfynol 40 credyd:

Modiwlau gorfodol (20 credyd yr un)

  • Rheoli Heriau Byd-eang
  • Yr Economi Fyd-eang: Masnach a Chyllid Rhyngwladol
  • Datblygiad, Ymarfer a Pherfformiad Proffesiynol
  • Diwygio a Rheoli’r Sector Cyhoeddus
  • Materion Gwleidyddol Cyfoes mewn Busnes Rhyngwladol
  • Strategaethau Busnes Rhyngwladol
  • Cynaliadwyedd Corfforaethol Byd-eang

Dewiswch UN modiwl prosiect terfynol (40 credyd yr un)

  • Prosiect Ymchwil Rhyngwladol
  • Prosiect Ymgynghori

 

Cewch eich dysgu a’ch cefgnogi gan dîm addysgu sydd wrthi’n gwneud ymchwil ac sydd â wybodaeth arbenigol a phrofiad yn y diwydiant rheoli busnes rhyngwladol.

Gyda chymuned amrywiol o fyfyrwyr o ddiwylliannol gwahanol, rydym yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau addysgu arloesol wedi’u teilwra i weddu i anghenion pawb.

Rydym yn cynnig dysgu hyblyg o’r ansawdd orau yn Ysgol Reoli Caerdydd trwy gymysgedd o ddulliau addysgu traddodiadol, gan gynnwys darlithoedd, seminarau, a gweithdai, ochr yn ochr ag offer digidol blaengar a llwyfannau dysgu rhithwir.

Mae’r cyfuniad hwn o ddulliau addysgu yn sicrhau bod myfyrwry yn ymgysylltu’n weithredol ac yn datblygu sgiliau hanfodol ar gyfer gyrfaoedd ym maes rheoli busnes rhyngwladol a thu hwnt.

Mae strwythur ein cwrs a’n strategaethau addysgu wedi’u cynllunio i gefnogi dysgu annibynnol wrth i chi symud ymlaen trwy’r cwrs. Hyrwyddir ymagwedd sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr trwy astudiaethau achos byd-eang go iawn, prosiectau, ymarferion ymarferol, a chynlluniau busnes.

Byddwch hefyd yn elwa o siaradwyr gwadd a gweithdai dan arweiniad arbenigwyr busnes, gan roi cipolwg ar arferion cyfredol ac ymchwil ym maes rheoli busnes rhyngwladol.

Hefyd, mae ein Hwythnosau Gwella yn cynnig digwyddiadau allgyrsiol a gynhelir gan ein gwasanaeth Gyrfaoedd, Canolfan Entrepreneuriaeth, tîm Sgiliau Digidol, Gwasanaethau’r Llyfrgell a Gwybodaeth, Tîm Ymgysylltu Byd-eang a Chynaliadwyedd. Mae’r digwyddiadau hyn yn hyrwyddo dysgu cymdeithasol a dealltwriaeth ryngddiwylliannol i wneud y gorau o’ch profiad ym Met Caerdydd.

Mae ein MSc Rheoli Busnes Rhyngwladol yn defnyddio ystod o wahanol ddulliau asesu megis gwaith cwrs ysgrifenedig, adroddiadau busnes, dadansoddi astudiaethau achos, poster academaidd digidol, podlediadau, blogiau fideo a chyflwyniadau ar y campws a chyflwyniadau rhithwir.

Mae’r dull cyfunol hwn yn eich galluogi i ddangos eich cymwyseddau mewn amrywiaeth o fformatau, gan bwysleisio sgiliau ymarferol a meddwl strategol.

Mae galw mawr am sgiliau rheoli busnes rhyngwladol gan fusnesau ledled y byd.

Bydd ein modiwl datblygiad personol a phroffesiynol yn sicrhau eich bod yn barod am yrfa cyn i chi raddio. Byddwch yn dysgu sgiliau ymarferol ac offer digidol i weithio’n draws-ddiwylliannol a llwyddo ym maes rheolo busnes rhyngwladol.

Ar ôl graddio o’n MSc Rheoli Busnes Rhyngwladol, byddwch mewn sefyllfa dda i ddod o hyd i gyflogaeth yn y meysydd canlynol o amgylch y byd:

  • Datblygu Busnes a Strategaeth
  • Marchnata neu Reoli Cyfathrebu
  • Rheoli ac Ymgynghori
  • Cyllid a Rheoli Buddsoddiadau
  • Rheoli Cadwyn Gyflenwi a Logisteg
  • Rheoli Adnoddau Dynol
  • Masnach Ryngwladol a Rheoli Cysylltiadau
  • Rheoli Prosiectau
  • Rheoli Cynaliadwyedd

Mae cyn-raddedigion wedi sicrhau cyflogaeth fel ymgynghorwyr rheoli, rheolwyr prosiect ac wedi ymuno ag amrywiaeth o gynlluniau cyflogaeth i raddedigion o fewn llawer o gwmnïau blaenllaw yn y DU a thramor.

Dylai pob myfyriwr feddu ar radd gyntaf neu gymhwyster cyfatebol, gydag o leiaf dosbarth 2:2 yn y DU. Er nad yw profiad rheoli yn hanfodol, mae’n ddymunol. Bydd myfyrwyr nad ydynt yn meddu ar gymwysterau o’r fath yn cael eu hasesu o ran eu haddasrwydd trwy gyfweliad a lle bo angen cymryd geirdaon.

Ymgeiswyr Rhyngwladol:

Bydd angen i fyfyrwyr nad yw eu hiaith gyntaf yn Saesneg ddarparu tystiolaeth o rhuglder i safon IELTS 6.0 neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais a chymwysterau Saesneg, ewch i’r tudalennau Rhyngwladol.

Gweithdrefn Dethol:

Dewis ar gyfer y cwrs hwn yw drwy ffurflen gais a, lle bo angen, cyfweliad.

Sut i Wneud Cais:

Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn yn uniongyrchol i’r Brifysgol drwy ein cyfleuster hunanwasanaeth.

Dau gyfeiriad llawn i’w llwytho gyda’ch cais.

Am ragor o wybodaeth ewch i’n tudalennau Sut i Wneud Cais.

Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio credyd gan sefydliad arall, neu os ydych wedi cael cymwysterau a/neu brofiad i astudio ar gyfer cwrs ym Met Caerdydd, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn yn ogystal â gwybodaeth am sut i wneud cais ar y tudalen RPL.

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6010 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch ag Arweinydd y Rhaglen, Dr Jun Zhang:

  • Lleoliad

    Campws Llandaf

  • Ysgol

    Ysgol Reoli Caerdydd

  • Cychwyn

    Derbyniadau ym mis Medi ac Ionawr ar gael

  • Hyd

    1 flwyddyn yn llawn amser.

Rydyn ni'n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â'r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu'r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae'n cadw'r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o'r fath yn angenrheidiol. I gael y wybodaeth lawn, darllenwch ein Telerau ac Amodau.

A group of four people pose for a photo in front of large display screen. One of them is holding an award in their hands. A group of four people pose for a photo in front of large display screen. One of them is holding an award in their hands.

Gwobrau Cyflogadwyedd Academaidd 2026

Mae ein MSc Rheoli Busnes Rhyngwladol wedi ennill Gwobr Cyflogadwyedd Ôl-raddedig yng Ngwobrau Cyflogadwyedd Academaidd Sefydliad Dyfodol Graddedigion 2026. Mae cyflogadwyedd wedi’i ymgorffori yn ein rhaglen i sicrhau eich bod yn graddio fel gweithiwr proffesiynol hyderus a pharod ar gyfer gyrfa. Dysgwch fwy.

MSc International Business Management lecturer talks to a classroom of students MSc International Business Management lecturer talks to a classroom of students

Gwobrau #WeAreInternational 2026

Rydym wedi cyrraedd y rownd derfynol yng nghategori Cymorth i Fyfyrwyr Eithriadol (Profiad Academaidd) yng Ngwobrau #WeAreInternational 2026 gan UKCISA (Cyngor Materion Myfyrwyr Rhyngwladol y DU), am ddarparu cymorth academaidd eithriadol i fyfyrwyr rhyngwladol.

01 - 04
Five people talking to each other on a balcony in an atrium space. Five people talking to each other on a balcony in an atrium space.

Astudio Rheoli Busnes Rhyngwladol

Llwybr Rheolaeth Gyhoeddus

Ydych chi’n frwd dros siapio dyfodol y gwasanaethau cyhoeddus? Mae ein llwybr Rheolaeth Gyhoeddus yn cynnig y cyfle i arbenigo mewn rheolaeth y sector cyhoeddus tra’n dod yn fedrus yn ogystal â chael gwybodaeth hanfodol ym maes rheolaeth busnes rhyngwladol.

A person leans against a railing in a brightly-lit atrium space. A person leans against a railing in a brightly-lit atrium space.

Astudio Rheoli Busnes Rhyngwladol

Dysgu gan Arbenigwyr

Cewch eich dysgu a’ch cefnogi gan dîm addysgu sydd wrthi’n gwneud ymchwil ac sydd â wybodaeth arbenigol a phrofiad yn y diwydiant rheoli busnes rhyngwladol. Gyda chymuned amrywiol o fyfyrwyr o ddiwylliannol gwahanol, rydym yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau addysgu arloesol wedi’u teilwra i weddu i anghenion pawb.

Four people talking to each other on a balcony in an atrium space. Four people talking to each other on a balcony in an atrium space.

Astudio Rheoli Busnes Rhyngwladol

Datblygiad Personol a Phroffesiynol

Bydd ein modiwl datblygiad personol a phroffesiynol yn sicrhau eich bod yn barod am yrfa cyn i chi raddio. Byddwch yn dysgu sgiliau ymarferol ac offer digidol i weithio’n draws-ddiwylliannol a llwyddo ym maes rheoli busnes rhyngwladol.

01 - 04
A student walks through the bottom floor of the Cardiff School of Management A student walks through the bottom floor of the Cardiff School of Management

Archwiliwch Ein Cyfleusterau

Ysgol Reoli Caerdydd

Mae ein hadeilad modern Ysgol Reoli Caerdydd wedi’i gynllunio i ysbrydoli arweinwyr busnes y dyfodol wrth ddarparu cymorth eithriadol.

01 - 04

Un uchafbwynt mawr oedd cymryd rhan mewn prosiect COIL (Dysgu Rhyngwladol Cydweithredol Ar-lein) o dan y modiwl Busnes Rhyngwladol yn y Gymdeithas Ddigidol, lle gweithiais gyda myfyrwyr o EAE Barcelona. Roedd hwn yn brofiad craff a chyfoethog, ac fe ganiataodd i mi ymgysylltu â chyfoedion rhyngwladol a chyfnewid syniadau ar sut mae trawsnewid digidol yn llunio busnes byd-eang.

Theresa Kwafoa Ntow, MSc Rheoli Busnes Rhyngwladol