Skip to content
Ymunwch â ni ym mis Medi. Gwneud cais drwy Glirio

Ynglŷn â'r Hwb Ffisioleg Chwaraeon

A person runs on a treadmill while wearing a breathing mask. A second person stands alongside, next to a computer display and other equipment. A person runs on a treadmill while wearing a breathing mask. A second person stands alongside, next to a computer display and other equipment.
01 - 02

Pwy ydym ni

Rydym yn wyddonwyr chwaraeon profiadol sydd â phrofiad ymarferol ac ymchwil o wella perfformiad chwaraeon. Mae ein staff eisoes yn gweithio gydag Athletau Cymru ac England Athletics, Triathlon Cymru, ac ym maes pêl-droed; nawr gallwch chithau hefyd fanteisio ar ein harbenigedd i wella eich perfformiad chwaraeon eich hun.

Bydd ein tîm Ffisioleg yn darparu profion, monitro a chyngor i’ch helpu i wella perfformiad mewn chwaraeon sy’n para am gyfnodau hirach.

Gallwn ddarparu profion safonol neu bwrpasol a chyngor i wella’r rhan fwyaf o agweddau ar berfformiad chwaraeon.

Michael Hughes, PhD. Ffisiolegydd Chwaraeon

  • Cyn-ffisiolegydd chwaraeon i Gymdeithas Olympaidd Prydain
  • Gwaith ymgynghori i FIFA, Ffederasiwn Badminton y Byd, Badminton Lloegr a Badminton Cymru
  • Cydweithrediadau ymchwil gydag Athletau Cymru, Triathlon Cymru a Chwaraeon Cymru
  • Yn canolbwyntio ar brofion ffitrwydd yn y maes ac yn y labordy

Owain Zerilli, MSc (Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff). 

  • Ffisiolegydd Chwaraeon a hyfforddwr rhedeg
  • Ymgeisydd PhD ym maes ffisioleg rhedeg dygnwch
  • Cyn-intern Ffisioleg gydag Athletau Cymru (2023-2025)
  • Cyd-gyflwynydd podlediad The Physiology of Endurance Running
  • Wedi cynrychioli Cymru mewn digwyddiadau ultra a rhedeg llwybrau, gydag amser marathon gorau o 2:33

Sut rydym yn gwneud hyn?

Trwy fentrau Campws Agored a Chenhedaeth Ddinesig y Brifysgol, gallwn gynnig ein gwasanaethau i gyrff llywodraethu, clybiau, grwpiau hyfforddi ac aelodau o’r cyhoedd.

Pam dewis Hwb Ffisioleg Chwaraeon Met Caerdydd?

Rydym yn wyddonwyr chwaraeon profiadol â phrofiad ymarferol ac ymchwil o wella perfformiad chwaraeon. Mae ein staff eisoes yn gweithio gydag Athletau Cymru, England Athletics, Triathlon Cymru, ac ym maes pêl-droed. Manteisiwch ar yr arbenigedd hwn i wella eich perfformiad chwaraeon eich hun.

Trwy fentrau Campws Agored a Chenhadaeth Ddinesig Prifysgol Metropolitan Caerdydd, rydym yn darparu profion, monitro, a chyngor i gyrff llywodraethu, clybiau, grwpiau hyfforddi, ac aelodau unigol o’r cyhoedd.

Gallwn ddarparu profion safonol neu bwrpasol a chyngor i wella sawl agwedd perfformiad chwaraeon.

Darganfyddwch ein hystod o brofion ffisiolegol yn y labordy ac yn y maes, gan gynnwys profion VO₂ max, profion trothwy lactad, asesiadau o effeithlonrwydd rhedeg, a mwy.

Gweld ac archebu ein profion