Skip to content

Astudio Seicoleg ym Met Caerdydd

Gweld y Cyrsiau
Two people assist a seated person with an EEG cap. One adjusts the cables on the cap, while the other looks on. Two people assist a seated person with an EEG cap. One adjusts the cables on the cap, while the other looks on.
01 - 02
Two hands hold a realistic model of a human brain, displaying its intricate folds and grooves. Two hands hold a realistic model of a human brain, displaying its intricate folds and grooves.

Yr Hyn yr Ydym yn ei Gynnig

Mae ein graddau, sydd wedi’u hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain, yn darparu cymhwyster a gydnabyddir gan gyflogwyr sy’n cryfhau eich CV ac yn cefnogi dilyniant i hyfforddiant ôl-raddedig arbenigol. Wedi’ch addysgu gan arbenigwyr sy’n weithgar ym maes ymchwil, byddwch yn astudio sut mae pobl yn meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn, gan gymhwyso seicoleg i faterion go iawn ym maes iechyd, addysg, troseddu a newid cymdeithasol.

Gydag opsiynau i arbenigo ynddynt ym maes seicoleg iechyd, fforensig neu addysgol, byddwch yn datblygu sgiliau dadansoddol, ymchwil a meddwl beirniadol. Mae lleoliadau a chyfleoedd gwirfoddoli byd-eang yn cynnig profiad ymarferol, gan eich paratoi ar gyfer gyrfaoedd effeithiol.

01 - 04
A seated person wearing an EEG cap, as three other people look on. A seated person wearing an EEG cap, as three other people look on.

Darganfod Eich Cwrs

Mae ein gradd Seicoleg, sydd wedi’i hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain, yn caniatáu i chi arbenigo mewn safbwyntiau Iechyd, Fforensig neu Addysgol. Trwy fodiwlau dewisol, lleoliadau a chyfleoedd byd-eang, byddwch yn ennill profiad gwerthfawr ac yn graddio’n barod i fynd i’r gweithle neu symud ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig.

 

SeicolegSeicoleg
Criminology lecture Criminology lecture

Darganfod Eich Cwrs

Ystyriwch drosedd trwy gymhwyso Seicoleg. Mae’r radd hon yn archwilio sut mae bioleg ac amgylcheddau cymdeithasol yn siapio ymddygiad, gan gynnig mewnwelediadau i droseddu a newid cymdeithasol.

 

Seicoleg a ThroseddegSeicoleg a Throseddeg
01 - 04
YouTube Thumbnail - Psychology Facilities Tour YouTube Thumbnail - Psychology Facilities Tour

Ein Cyfleusterau

Cyfleusterau Seicoleg

Camwch i mewn i’n cyfleusterau Seicoleg – lle mae theori yn cwrdd ag ymarfer. Yn y fideo hwn, byddwch yn ymweld â’n labordai pwrpasol a’n mannau dysgu a ddefnyddir bob dydd gan fyfyrwyr Seicoleg. O ystafelloedd EEG ac olrhain llygaid i ystafelloedd arsylwi a mannau astudio cydweithredol, gallwch ddarganfod sut mae myfyrwyr Met Caerdydd yn archwilio’r meddwl dynol trwy ymchwil byd go iawn.

YouTube Thumbnail - Crime House YouTube Thumbnail - Crime House

Ein Cyfleusterau

Cyfleusterau Troseddeg

Mae ein cyfleusterau Tŷ Trosedd pwrpasol yn cynnwys ystafell ddalfa, ystafell arsylwi a gwyliadwriaeth, ac ystafell gyfweld y rheini dan amheuaeth. Os dewiswch astudio ein gradd Seicoleg a Throseddeg, mae’r cyfleusterau hyn yn darparu cyfleoedd dysgu efelychu beirniadol i chi roi’r wybodaeth a’r sgiliau rydych chi’n eu dysgu ar waith.

01 - 04

Achrediadau ac Aelodaeth Broffesiynol

The British Psychological Society Logo

Sylwer: nid yw pob achrediad ac aelodaeth broffesiynol yn berthnasol i bob cwrs a restrir isod. Ewch i dudalennau cyrsiau unigol i gael rhagor o wybodaeth.

 

Enw'r Cwrs

Lefel

Lleoliad

Israddedig

Campws Llandaf

Israddedig

Campws Llandaf, Campws Cyncoed

Diwrnodau Agored a Theithiau Campws

Eisiau rhagor o wybodaeth am astudio gyda ni?

Dewch i’n gweld ar un o’n Diwrnodau Agored neu archebwch Daith Campws dan arweiniad myfyrwyr.

Archebwch Eich Lle