Skip to content

Addysg, Seicoleg ac Anghenion Addysgol Arbennig - Gradd BSc (Anrh)

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Cefnogi pob dysgwr. Llunio dyfodol cynhwysol.

Mae Addysg, Seicoleg ac Anghenion Addysgol Arbennig ym Met Caerdydd yn radd nodedig, sy’n canolbwyntio ar ymarfer os ydych yn angerddol am addysg gynhwysol a chefnogi dysgwyr amrywiol. Mae’n cyfuno safbwyntiau seicolegol â gwybodaeth arbenigol am anghenion dysgu ychwanegol, gan eich paratoi i wneud cyfraniad ystyrlon ar draws ystod o leoliadau addysgol a chymorth.

Mae’r cwrs yn archwilio sut mae plant a phobl ifanc yn dysgu ac yn datblygu, gyda phwyslais cryf ar ddeall a chefnogi unigolion ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae meysydd allweddol yn cynnwys ymarfer cynhwysol, rhwystrau i ddysgu, datblygiad cymdeithasol ac emosiynol, ymddygiad, a rôl addysgwyr a gweithwyr proffesiynol amlasiantaeth wrth hyrwyddo canlyniadau cadarnhaol. Defnyddir damcaniaeth seicolegol drwyddi draw i ddyfnhau eich dealltwriaeth o ddysgu, cymhelliant a datblygiad mewn cyd-destunau byd go iawn.

Mae profiad ymarferol yn nodwedd ganolog, gyda chyfleoedd i chi ymgymryd â lleoliadau gwaith mewn amrywiaeth o amgylcheddau addysgol, gan gynnwys ysgolion arbennig a darpariaeth arbenigol o fewn lleoliadau prif ffrwd. Mae’r profiadau hyn yn cefnogi datblygiad eich sgiliau proffesiynol, eich hyder, a’ch gwybodaeth gymhwysol wrth weithio gyda dysgwyr ag ystod eang o anghenion.

Darperir yr addysgu gan staff profiadol sydd ag arbenigedd ar draws addysg, seicoleg ac anghenion dysgu ychwanegol, gan sicrhau bod dysgu wedi’i lywio gan ymchwil gyfredol ac arfer proffesiynol. Rhoddir pwyslais cryf ar feddwl beirniadol, myfyrio, a datblygu sgiliau ymchwil rhyngddisgyblaethol.

Ar ôl graddio, byddwch wedi’ch paratoi’n dda ar gyfer gyrfaoedd ym maes addysg, gwasanaethau cymorth, a meysydd cysylltiedig, wedi’ch cyfarparu â’r wybodaeth, y sgiliau a’r gwerthoedd sydd eu hangen i gefnogi arfer cynhwysol a gwella canlyniadau i bob dysgwr.

Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd amser llawn pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.

Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:

  1. Myfyrwyr sydd am ymrestru ar flwyddyn gyntaf rhaglen radd anrhydedd yn y gwyddorau cymdeithasol, sydd heb gyflawni’r gofynion mynediad safonol i gael mynediad ym mlwyddyn un y radd a ddewiswyd.
  2. Myfyrwyr nad ydynt wedi astudio pynciau sy’n darparu'r cefndir angenrheidiol o fewn y disgyblaethau gwyddonol sy’n ofynnol i gael mynediad ym mlwyddyn un y radd a ddewiswyd.

Darganfyddwch fwy am y flwyddyn sylfaen a’r ffioedd.

Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen.

Blwyddyn Un

Y Plentyn sy’n Datblygu (20 credyd)

Beth yw ‘plentyndod’ a sut mae hyn yn ymwneud â datblygiad drwy gydol oes? Pa effaith y mae iechyd meddwl a chorfforol gwael yn ei chael ar blant a’u datblygiad? Bydd y modiwlau hyn yn datblygu eich gwybodaeth am ddatblygiad plant ac yn ystyried datblygiad seicolegol a chorfforol a ffactorau sy’n dylanwadu ar hyn. Mae’r pynciau a drafodir yn cynnwys sut mae seicoleg plentyn yn newid dros amser a sut mae’r byd cymdeithasol yn effeithio ar ddatblygiad gwybyddol. Byddwn yn ystyried cerrig milltir pwysig, er enghraifft, mewn perthynas ag ymddygiad cymdeithasol/emosiynol a iaith a lleferydd, a sut mae’r rhain yn berthnasol i ddatblygiad arferol ac anarferol.

Grymuso a Diogelu Plant a Phobl Ifanc (20 credyd)

Pam mae angen amddiffyn plant? I ba raddau y dylai plant gael llais mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt? Bydd y modiwl hwn yn archwilio deddfwriaeth a pholisi allweddol sydd ar waith i amddiffyn a diogelu plant rhag camdriniaeth. Mae’r modiwl hefyd yn ceisio archwilio’r cydbwysedd rhwng sicrhau bod plant yn cael eu diogelu yn ogystal â grymuso a gwrando ar farn plant. Mae’r pynciau a drafodir yn cynnwys gwahanol safbwyntiau am blentyndod, diogelu yn y byd go iawn yn ogystal ag archwilio heriau grymuso plant ag anableddau ac anghenion cymhleth.

Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ac Ymarfer Cynhwysol (40 credyd)

Beth yw AAA ac ADY a beth mae’n ei olygu i bod â’r anghenion hyn? Beth mae’n ei olygu i fod yn gynhwysol a pha mor gynhwysol yw ein system addysg? Pa partneriaethau asiantaethau sy’n cydweithio i ddarparu addysg arbennig? Mae’r modiwl hwn yn ystyried datblygiadau hanesyddol ym meysydd cynhwysiant, anabledd ac anghenion arbennig/ychwanegol a bydd yn archwilio damcaniaethau a chysyniadau yn y meysydd hyn. Bydd cyfleoedd hefyd i archwilio beth mae arferion cynhwysol yn ei olygu yn yr ystafell ddosbarth. Bydd yn ymdrin â phynciau fel modelau anabledd, ymarfer addysgol cynhwysol, gwasanaethau cymorth, deddfwriaeth a pholisi a rôl ymarferwyr a rhieni wrth gefnogi dysgwyr ag anableddau dysgu ac anghenion addysgol ychwanegol. Byddwch yn barod ar gyfer lleoliad profiad gwaith mewn lleoliad ADY yn ystod y modiwl, sydd yn ei dro yn gysylltiedig â modiwl lleoliad gwaith ail flwyddyn.

Ymgysylltu â Dysgu ac Ymchwil (20 credyd)

Pa sgiliau sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn y brifysgol a dechrau archwilio ymchwil mewn addysg? Mae’r modiwl hwn yn cefnogi eich trosglwyddiad i addysg uwch drwy ddatblygu’r sgiliau academaidd craidd sydd eu hangen ar gyfer llwyddiant ar draws y radd. Byddwch yn meithrin hyder mewn ysgrifennu academaidd, darllen beirniadol, cyfeirio a chyfathrebu effeithiol, ynghyd â dysgu sut i ymgysylltu â ffynonellau academaidd a’u gwerthuso. Ochr yn ochr â’r sgiliau hyn, byddwch yn cael eich cyflwyno i ymchwil mewn cyd-destunau addysgol, gan gynnwys trosolwg o ddulliau ansoddol a meintiol a sut y cânt eu defnyddio i archwilio gwahanol gwestiynau am ddysgu a datblygiad. Y ffocws yw deall beth sy’n gwneud tystiolaeth o ansawdd uchel a sut mae ymchwil yn llywio arfer addysgol. Erbyn diwedd y modiwl, byddwch wedi datblygu sylfaen gref mewn astudiaeth academaidd ac wedi cael cyflwyniad i sgiliau ymchwil a fydd yn cefnogi eich dysgu drwy gydol y radd.

Natur Addysg (20 credyd)

Beth yw addysg? Pam rydym yn addysgu pobl y ffordd yr ydym yn ei wneud? Sut mae seicoleg wedi dylanwadu ar addysg? Gan adeiladu ar ddisgyblaethau sylfaen megis hanes, cymdeithaseg, athroniaeth a pholisi cymdeithasol, bydd y modiwl hwn yn archwilio sut mae datblygiadau cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd wedi effeithio ar ein system addysg. Yn ganolog i’r modiwl hwn mae ystyriaeth o effaith theori seicolegol ac ymchwil ar ymarfer addysgol. Gan gadw i fyny â’r tirlun addysg sy’n newid yn gyson, bydd y modiwl hefyd yn ystyried materion cyfoes ym maes addysg.

Blwyddyn Dau

Syniadau a Dysgu (20 credyd)

Sut a pham ydyn ni’n dysgu? Beth ydy’r dulliau cyfathrebu amgen a chynyddol a sut maen nhw’n helpu’r rhai hynny â nam cyfathrebu difrifol? Beth ydy’r esboniadau gwybyddol am ddyslecsia a’r modd y mae’r rhain wedi cynorthwyo polisi ac ymarfer? Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno cysyniadau ynglŷn â’r modd y mae pobl yn meddwl a dysgu. Byddwn yn delio â phynciau craidd mewn seicoleg, megis cof a iaith a’r defnydd a wneir o seicoleg gwybyddol i ddeall prosesau addysgu a dysgu. Hefyd ystyrir esboniadau seicolegol am anawsterau dysgu penodol, er enghraifft, dyslecsia, dyspracsia a dyscalcwlia.

Cefnogi Anghenion Cyfathrebu ac Ymddygiad (20 credyd)

Pam fod rhai plant yn ei chael yn anodd cyfathrebu ac ymddwyn mewn ffyrdd sy’n cyd-fynd â disgwyliadau’r ystafell ddosbarth? Mae’r modiwl hwn yn archwilio’r cysylltiadau cymhleth rhwng cyfathrebu ac ymddygiad, ochr yn ochr â’r ystod o anghenion dysgu ychwanegol a all ddylanwadu arnynt. Byddwch yn archwilio meysydd fel anawsterau lleferydd ac iaith, ymlyniad, a heriau emosiynol neu ymddygiadol, gan ystyried sut mae ffactorau datblygiadol, amgylcheddol a pherthynasol yn llunio profiadau plant. Mae’r modiwl hefyd yn canolbwyntio ar gymhwyso strategaethau cynhwysol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, i gefnogi dysgwyr yn effeithiol mewn lleoliadau addysgol.

Niwroamrywiaeth mewn Addysg (20 credyd)

Sut gall deall niwroamrywiaeth drawsnewid y ffordd rydym yn cefnogi dysgwyr mewn addysg? Mae’r modiwl hwn yn archwilio niwroamrywiaeth a’i pherthnasedd i ymarfer addysgol cynhwysol. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o ystod o broffiliau niwroamrywiol, fel awtistiaeth, ADHD, a dyslecsia, ac yn ystyried sut y gall y rhain lunio dysgu, cyfathrebu ac ymddygiad. Mae’r modiwl yn canolbwyntio ar ddulliau sy’n seiliedig ar gryfderau a chynhwysol, gan herio safbwyntiau sy’n seiliedig ar ddiffygion ac archwilio sut y gellir addasu amgylcheddau addysgol i gefnogi ffyrdd amrywiol o feddwl a dysgu yn well. Byddwch hefyd yn ystyried y ffactorau cymdeithasol, amgylcheddol ac addysgol sy’n effeithio ar brofiadau dysgwyr niwroamrywiol. Drwy ymgysylltu ag enghreifftiau o’r byd go iawn ac ymchwil gyfredol, byddwch yn datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi dysgwyr niwroamrywiol yn effeithiol a hyrwyddo arfer cynhwysol ar draws lleoliadau addysgol.

Dulliau Ymchwil Empirig (20 credyd)

Beth sydd ei angen i ddylunio a chynnal ymchwil ystyrlon mewn lleoliadau addysgol? Mae’r modiwl hwn yn datblygu’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i gynllunio, cynnal a gwerthuso ymchwil o fewn addysg. Gan adeiladu ar astudiaeth gynharach, mae’n canolbwyntio ar sut i ddylunio cwestiynau ymchwil, dewis dulliau priodol, a dehongli a chyflwyno canfyddiadau mewn ffyrdd sy’n berthnasol i gyd-destunau addysgol y byd go iawn. Byddwch yn archwilio ystyriaethau allweddol fel dylunio ymchwil, casglu a dadansoddi data, a sut mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio i lywio ymarfer. Rhoddir pwyslais cryf ar wneud penderfyniadau moesegol wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc, gan sicrhau bod ymchwil yn cael ei chynnal yn gyfrifol ac yn sensitif. Drwy’r modiwl hwn, byddwch yn magu’r hyder a’r sgiliau i gynnal ymchwil annibynnol mewn lleoliadau addysgol, gan eich paratoi ar gyfer eich prosiect ymchwil blwyddyn olaf a rolau proffesiynol yn y dyfodol.

Tegwch a Chyfiawnder Cymdeithasol mewn Addysg (20 credyd)

Pa mor deg ydy system addysg Prydain? Pam bod merched yn gwneud yn well na bechgyn yn yr ysgol? Sut y canfyddir dysgwyr mwy abl a thalentog a sut maen nhw’n cael eu hasesu a sut y darperir ar eu cyfer? Pa strategaethau allai fynd i’r afael ag anghydraddoldebau ym maes addysg a pha mor effeithiol ydyn nhw? Mae’r modiwl hwn yn cynnig dealltwriaeth gritigol o dystiolaeth, ymchwil ac arferion cyfredol ym maes addysg a chydraddoldeb. Caiff damcaniaethau a chysyniadau addysg a chydraddoldeb eu hystyried (e.e. tlodi, cyfiawnder cymdeithasol a gwahardd, ffoaduriaid a cheiswyr lloches, anghenion dysgu ychwanegol, materion rhywedd ac ethnigrwydd). Bydd enghreifftiau o bolisi ac ymarfer addysgol cyfoes yn ategu’r rhain.

Lleoliad a Datblygiad Proffesiynol (20 credyd)

Sut mae’r hyn yr ydych yn ei ddysgu ar y cwrs yn cysylltu â’r lleoliadau proffesiynol? Pa sgiliau ydych eisoes yn eu meddu a pha sgiliau sydd angen i chi eu datblygu ymhellach er mwyn gwella cyflogadwyedd? Mae’r modiwl hwn yn gofyn eich bod wedi cwblhau lleoliad profiad gwaith erbyn diwedd y flwyddyn gyntaf a bydd yn parhau i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd ac annog syniadau am yrfa ar ôl graddio. Fel arfer byddai’r profiad gwaith yn digwydd mewn lleoliad sy’n cynorthwyo anghenion dysgu ychwanegol, er bod hyn yn hyblyg yn seiliedig ar eich anghenion personol chi a’ch profiad o leoliad profiad gwaith blaenorol. Hefyd, efallai cewch gyfle i wella’ch cyflogadwyedd ymhellach drwy ymestyn eich lleoliad drwy gyd-gytundeb gyda’r darparwr.

Blwyddyn Tri

Iechyd Meddwl mewn Addysg (20 credyd)

Pa effaith y gall iechyd meddwl person ei chael ar y ffordd maen nhw’n dysgu? Sut mae’n dylanwadu ar y ffordd maen nhw’n ymgysylltu ag addysg? Mae’r modiwl hwn yn rhoi cyfle i archwilio’n feirniadol faterion cyfoes sy’n ymwneud ag iechyd meddwl a lles mewn cyd-destun addysgol neu broffesiynol. Ymhlith materion eraill, bydd myfyrwyr yn ystyried effaith trawma a phrofiadau niweidiol plentyndod, cynhwysiant, a rôl gwytnwch wrth helpu myfyrwyr i ffynnu o fewn eu hastudiaethau a thu hwnt.

Materion a Dadleuon mewn ADY ac Anabledd (20 credyd)

Beth ydy’r tueddiadau mewn gwaith aml-asiantaethol wrth ymateb yn effeithiol i anghenion? A ddylai pob dysgwr gael mynediad i’r un faint o gymorth? Sut mae unigolion anghenion dysgu yn cael eu cynorthwyo mewn gwledydd eraill? Nod y modiwl hwn ydy cynnig cyfle i fyfyrwyr i ddatblygu dull critigol o ddelio â materion a dadleuon cyfredol ym maes ADY/AAA, yn cynnwys polisi, y gyfraith ac ymgyfreithiad, cynllunio cwricwlwm ac addysgeg, canfod anghenion, dilyniant, pontio a safbwyntiau rhyngwladol. Bydd hefyd yn ystyried rhai o’r sialensiau sy’n wynebu gweithwyr proffesiynol wrth geisio sicrhau cynhwysiad. Bydd y modiwl yn gofyn i chi fynd ar leoliad gwaith fel y gellir ystyried materion a dadleuon o fewn y modiwl mewn sefyllfa broffesiynol.

Cynhwyso Niwroamrywiaeth i Addysg (20 credyd)

Sut mae’r ymennydd yn dysgu pethau newydd? A all mesur gweithgaredd yr ymennydd ddatgelu unrhyw beth am wahaniaethau mewn gallu? Ydy genynnau’n rhagfynegi’r gallu i ddysgu? Bydd y modiwl hwn yn ystyried sylfeini dysgu ac ymddygiad, weithiau cyfeirir at hyn fel niwro-wyddoniaeth addysgol. Byddwn yn edrych ar integreiddiad bioleg ac ymddygiad, gan gynnwys y modd gall ymddygiad unigolyn effeithio ar ei swyddogaeth fiolegol a’r modd y mae gwybyddiaeth yn deillio o weithgaredd yr ymennydd Bydd hefyd yn ystyried tarddiad biolegol anableddau deallusol a datblygiadol er enghraifft anabledd dysgu, awtistiaeth ac ADHD (Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd).

Creadigrwydd ac Arloesedd mewn Addysg (20 credyd)

Sut gall dulliau creadigol ddatgloi dysgu ac ymgysylltiad i blant ag anghenion amrywiol? Mae’r modiwl hwn yn archwilio rôl creadigrwydd ac arloesedd mewn cyd-destunau addysg a therapiwtig, gyda ffocws cryf ar ymarfer cynhwysol. Byddwch yn archwilio damcaniaethau allweddol creadigrwydd, chwarae, a dysgu profiadol, ochr yn ochr â sut y gall dulliau creadigol – megis offer digidol, strategaethau synhwyraidd, ac ymyriadau sy’n seiliedig ar y celfyddydau – gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion amrywiol. Mae’r modiwl yn eich annog i gymhwyso syniadau arloesol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, i heriau’r byd go iawn, gan ddatblygu atebion ymarferol a chynhwysol sy’n gwella ymgysylltiad, lles a dysgu.

Prosiect Ymchwil Annibynnol (40 credyd)

Cyfle ydy hyn i chi ymgymryd â darn gwreiddiol o waith ymchwil, dan oruchwyliaeth aelod o’r staff. Byddwch yn gyfrifol am lunio cwestiwn ymchwil yn ymwneud â seicoleg mewn addysg, cynhyrchu adolygiad llenyddiaeth a chynllunio a gweithredu astudiaeth sy’n datrys y cwestiwn ymchwil. Yna caiff eich canfyddiadau eu dadansoddi, eu cofnodi a’u trafod. Bydd hyn yn eich galluogi i arddangos annibyniaeth yn eich dull o fynd ati i ymchwilio a gwella’ch profiad o gynllunio prosiect.

Mae dysgu ac addysgu wedi’u cynllunio i ddarparu profiad cefnogol, deniadol, sy’n canolbwyntio ar ymarfer ac yn eich paratoi i weithio gyda dysgwyr amrywiol ar draws ystod o leoliadau addysgol. Cyflwynir y radd drwy addysgu wyneb yn wyneb ar y campws, gan roi cyswllt rheolaidd i chi â staff a chyfleoedd ar gyfer dysgu rhyngweithiol a chydweithredol. Defnyddir amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys darlithoedd, seminarau, gweithdai a gweithgareddau grŵp, i gefnogi gwahanol arddulliau dysgu.

Rhoddir pwyslais cryf ar gysylltu damcaniaeth ag ymarfer. Drwy astudiaethau achos, dysgu sy’n seiliedig ar broblemau, a senarios byd go iawn, byddwch yn datblygu meddwl beirniadol a sgiliau gwneud penderfyniadau proffesiynol, yn enwedig mewn perthynas ag ymarfer cynhwysol a chefnogi dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae gweithdai yn cynnig cyfleoedd ymarferol i gymhwyso eich gwybodaeth mewn ffyrdd ystyrlon ac ymarferol.

Mae lleoliadau gwaith yn nodwedd allweddol o’r radd, gan gynnig profiad gwerthfawr mewn amrywiaeth o leoliadau addysgol, gan gynnwys darpariaeth arbenigol a chyd-destunau prif ffrwd. Mae tîm lleoliadau’r Brifysgol yn cefnogi myfyrwyr i nodi cyfleoedd addas, wrth hefyd eich annog i gymryd rhan weithredol wrth ddod o hyd i’ch lleoliad eich hun lle bo modd.

Mae pob modiwl yn cyfuno sesiynau a addysgir ag astudiaeth gyfeiriedig ac annibynnol, gan eich helpu i gymryd perchnogaeth o’ch dysgu a datblygu sgiliau ymchwil, cyfathrebu a phroffesiynol allweddol. Cefnogir dysgu digidol drwy Amgylchedd Dysgu Rhithwir y Brifysgol, sy’n darparu mynediad at ddeunyddiau ac adnoddau ar unrhyw adeg.

Cewch eich cefnogi drwy gydol eich astudiaethau gan diwtor personol a rhwydwaith ehangach o gefnogaeth academaidd a bugeiliol. Caiff yr addysgu ei gyflwyno gan staff profiadol, sy’n weithgar ym maes ymchwil o ystod o gefndiroedd proffesiynol, gan sicrhau bod eich dysgu’n cael ei lunio gan ymchwil ac arfer cyfredol.

Mae’r radd hon yn eich paratoi i ddod yn raddedig myfyriol, hyderus a chyflogadwy, yn barod i wneud effaith gadarnhaol mewn lleoliadau addysgol cynhwysol.

Rydym wedi ymrwymo i arferion asesu arloesol a chynhwysol sy’n cyd-fynd â chanlyniadau dysgu pob modiwl a’r radd gyffredinol. Mae asesiadau wedi’u cynllunio nid yn unig i ddatblygu eich gwybodaeth am y pwnc, ond hefyd i feithrin sgiliau allweddol a fydd yn gwella eich cyflogadwyedd yn y dyfodol.

Defnyddir ystod eang o ddulliau asesu, gan gynnwys aseiniadau ysgrifenedig, posteri, cyflwyniadau, portffolios, a thasgau o fewn terfynau amser. Mae llawer o asesiadau yn seiliedig ar senarios addysgol go iawn, gan eich galluogi i gymhwyso damcaniaeth i ymarfer a datblygu sgiliau sy’n berthnasol i gyd-destunau proffesiynol. Mae cyfleoedd ar gyfer gwaith grŵp, cefnogaeth gan gymheiriaid, a dysgu cydweithredol hefyd wedi’u hymgorffori drwy gydol y radd.

Cefnogir yr asesiad gan ganllawiau ac adborth clir, gan eich helpu i fyfyrio ar eich cynnydd a pharhau i ddatblygu eich sgiliau academaidd a phroffesiynol.

Mae’r radd hon yn agor ystod eang o gyfleoedd gyrfa ar draws addysg, gwasanaethau cymorth, a sectorau cysylltiedig. Mae graddedigion yn symud ymlaen i rolau o fewn ysgolion a darpariaeth arbenigol, gwasanaethau cymorth addysgol, sefydliadau cymunedol ac elusennol, a’r sector iechyd. Mae cyfleoedd hefyd yn bodoli o fewn ymchwil addysgol a chymdeithasol, yn ogystal â rolau sy’n cefnogi dysgu a datblygiad ar draws amrywiol leoliadau.

Drwy gydol y radd, byddwch yn ennill profiad gwaith gwerthfawr mewn amrywiaeth o amgylcheddau addysgol, gan gynnwys lleoliadau arbenigol, yn eich helpu i feithrin sgiliau ymarferol a hyder ar gyfer cyflogaeth neu astudiaeth bellach.

Mae llawer o raddedigion yn dewis parhau â’u hastudiaethau ar lefel ôl-raddedig. Mae Met Caerdydd yn cynnig cyfleoedd dilyniant megis yr MA Addysg, yn ogystal â llwybrau i raddau ymchwil gan gynnwys astudiaeth Doethuriaeth.

Dilyniant i Seicoleg (Achrediad BPS)

I’r rhai sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa mewn seicoleg, mae Met Caerdydd yn cynnig MSc Seicoleg mewn Addysg. Mae’r llwybr ôl-raddedig hwn yn cefnogi datblygiad pellach mewn meysydd sy’n gysylltiedig â seicoleg ac yn darparu llwybr tuag at achrediad Cymdeithas Seicolegol Prydain (BPS), cam pwysig i’r rhai sy’n dymuno hyfforddi fel seicolegwyr proffesiynol.

Dilyniant i Hyfforddiant Athrawon (TAR)

Rydym yn falch o warantu cyfweliad ar gyfer y cwrs TAR Cynradd ym Met Caerdydd ar gyfer holl raddedigion y rhaglen hon (ar yr amod bod y cwrs ar agor gydag UCAS). Mae angen dosbarthiad gradd anrhydedd o 2:2 neu’n uwch ar hyn o bryd, a rhaid cwrdd â’r gofynion mynediad statudol ar gyfer hyfforddiant athrawon yng Nghymru (gan gynnwys Gradd C / Gradd 4 neu gyfwerth mewn TGAU ar gyfer Iaith Saesneg neu Cymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg neu Rhifedd a phwnc Gwyddoniaeth fel Bioleg, Ffiseg, Cemeg) fod yn eu lle cyn y cyfweliad. Cyfeiriwch at y dudalen TAR Cynradd am ragor o wybodaeth am y gofynion mynediad a’r cwrs.

Cynigion Nodweddiadol

Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.

Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad uchod, rydym hefyd yn cynnig Flwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu gwneud cynnydd i Flwyddyn 1.

  • Pwyntiau tariff: 104
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Yn ddelfrydol, pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys Graddau CCC. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: MMM
  • Lefel T: Teilyngdod.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): Does dim angen pynciau penodol.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: 2 x H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Graddau DD. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.
  • Gofynion eraill: Gwiriad DBS.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.

Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6010 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen, Emily Abbinett:

  • Cod UCAS

    XSEN (gradd 3 blynedd), XSEF (gradd 4 blynedd gan gynnwys blwyddyn sylfaen)

  • Lleoliad

    Campws Cyncoed

  • Ysgol

    Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

  • Hyd

    3 blynedd yn llawn amser.
    4 blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen.

Rydyn ni'n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â'r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu'r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae'n cadw'r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o'r fath yn angenrheidiol. I gael y wybodaeth lawn, darllenwch ein Telerau ac Amodau.

Two children wearing beekeeping suits stand in front of a small wooden building. Two children wearing beekeeping suits stand in front of a small wooden building.

Astudio Addysg, Seicoleg ac Anghenion Addysgol Arbennig

Dysgu Trawsnewidiol

Gwyliwch ein staff a’n myfyrwyr yn ysbrydoli plant cynradd lleol trwy ymarfer cymunedol ar y campws – chwarae clai, cadw gwenyn a gwers fathemateg ar thema llyffantod.

01 - 04