Skip to content
Ymunwch â ni ym mis Medi. Gwneud cais drwy Glirio

Ein Cymuned Gymraeg a Chyfleoedd Cymraeg

Mae gennym gymuned Gymraeg fywiog ym Met Caerdydd, sy'n cynnwys siaradwyr a dysgwyr Cymraeg, ac mae digon o gyfleoedd a gweithgareddau i gymryd rhan ynddynt.

Gelli di ddysgu mwy ar ein tudalennau Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Datblygu sgiliau Cymraeg i roi hwb i dy yrfa

Mae sgiliau Cymraeg yn hynod werthfawr yng Nghymru, yn broffesiynol ac yn gymdeithasol. Mae gan Lywodraeth Cymru weledigaeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, felly mae galw cynyddol am sgiliau Cymraeg yn y gweithlu ledled Cymru.

Mae Met Caerdydd yn cynnig llawer o gyfleoedd i ddatblygu, gwella a defnyddio'r sgiliau hyn.

Cymraeg i bawb

Bydd gwersi Cymraeg am ddim ar gael i holl fyfyrwyr Prifysgol Met Caerdydd ym mis Medi 2026. Mae lleoedd yn gyfyngedig iawn a byddant ar gael ar sail y cyntaf i'r felin.

Newydd i'r Gymraeg neu wedi astudio'r Gymraeg mewn ysgol cyfrwng Saesneg?

I fyfyrwyr ar y rhaglenni isod, bydd y gwersi hyn wedi'u teilwra i'ch meysydd astudio a byddant yn rhan o amserlenni’r cwrs:

Gall pob myfyriwr arall gofrestru ar gyfer ein gwersi Cymraeg ar ddechrau'r tymor. I gofrestru, dewch draw i stondin Yr Uned Gymraeg yn yr Hwb Wybodaeth yn ystod yr Wythnos Groeso, lle gelli di gofrestru a chael rhagor o wybodaeth.

Wyt ti eisoes yn siarad Cymraeg?

Mae Met Caerdydd eisiau dy gefnogi i ddefnyddio dy Gymraeg fel rhan o dy astudiaethau ac yn dy fywyd bob dydd. Os wyt ti'n rhugl, bron yn rhugl neu'n astudio modiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg, galli di ymuno â'n dosbarth Defnyddio eich Cymraeg. Bydd hyn yn helpu i roi hwb i dy hyder mewn Cymraeg ysgrifenedig, Cymraeg academaidd a defnyddio’r iaith yn gyhoeddus.

Wyddost ti?

  • Fel myfyriwr Cymraeg, mae gennyt ti hawl i nifer o wasanaethau Cymraeg gan Met Caerdydd.
  • Gelli di sefyll unrhyw arholiad neu gwblhau unrhyw asesiad drwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer modiwl a addysgir yn Saesneg. Os hoffet ti wneud hyn, plis rho wybod i dy Gyfarwyddwr Rhaglen o fewn mis cyntaf y flwyddyn academaidd.
  • Rydym yn cynnig Tiwtora Academaidd Personol drwy gyfrwng y Gymraeg i bob myfyriwr.

Byddi di'n clywed mwy am y cyfleoedd hyn yn ystod yr Wythnos Groeso.