Skip to content
Ymunwch â ni ym mis Medi. Gwneud cais drwy Glirio

Cymorth i Fyfyrwyr

Drwy gydol eich amser ym Met Caerdydd, mae Gwasanaethau Myfyrwyr yma i chi.

Rydym yn cynnig pob math o gymorth arbenigol o ansawdd uchel, sydd ar gael ar y campws ac ar-lein drwy apwyntiadau 1:1, gweithdai, sesiynau galw heibio, gweminarau ac adnoddau ar-lein. Ein nod yw eich helpu i oresgyn unrhyw rwystrau y gallech chi fod yn eu hwynebu wrth astudio gyda ni a'ch helpu i gyflawni eich potensial llawn.

Gallwch gael cymorth gan:

  • Y Gwasanaeth Gyrfaoedd
  • Ehangu Llwyddiant
  • Lleoliadau
  • Anabledd, Iechyd Meddwl a Dyslecsia
  • Cyngor Ariannol
  • parth-g
  • Caplaniaeth

Os oes gennych chi gwestiwn, neu os hoffech chi ddysgu mwy am Wasanaethau Myfyrwyr a chael cymorth anacademaidd, dylech chi fynd i'r parth-g yn y lle cyntaf. Mae'r parth-g wrth ymyl y brif dderbynfa ar Gampws Llandaf ac yn y Llyfrgell ar Gampws Cyncoed. Gallwch hefyd ddysgu mwy am y cymorth sydd ar gael ar-lein drwy ein tudalennau CanolbwyntMet neu gallwch e-bostio studentservices@cardiffmet.ac.uk.

Cymorth Iechyd Meddwl a Llesiant Anabledd

Darpar Fyfyrwyr

Rydym yn annog myfyrwyr i ddechrau cynllunio cefnogaeth yn gynnar yn eu cyfnod trosglwyddo i'r brifysgol. Gallwn eich helpu i lywio gofynion Lwfans i Fyfyrwyr Anabl yn ogystal â phrosesau cymorth y brifysgol.

I drefnu cyfarfod cymorth, cwblhewch ein ffurflen Brysbennu Darpar Fyfyrwyr, gan roi ychydig o fanylion am y ffordd orau y gallwn eich cefnogi. Bydd aelod o'n tîm llesiant cyfeillgar yn eich helpu i fynd o'r fan honno.

Myfyrwyr Newydd a Myfyrwyr sydd wedi Cofrestru

Am gyngor a chymorth gydag iechyd meddwl neud llesiant anabledd, cwblhewch ein ffurflen gais Cwnsela a Llesiant Anabledd a byddwn yn trefnu cyfarfod gydag aelod o'n tîm.

Manylion Cyswllt

Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol sy'n ymwneud â chymorth llesiant, cysylltwch â wellbeingsupport@cardiffmet.ac.uk.

Cyngor ariannol i ddarpar fyfyrwyr a myfyrwyr newydd

Rydym yn deall y bydd gan ddarpar fyfyrwyr a rhieni/gwarcheidwaid gwestiynau ynghylch pa gyllid sydd ar gael i fyfyrwyr, a sut/pryd i wneud cais.

Gall ein tîm Cyngor Ariannol ateb ymholiadau a rhoi cymorth gyda chynllunio cyllideb i fyfyrwyr. Mae cefnogaeth ar gael ar gyfer:

  • Gwneud Cais am Gyllid Myfyrwyr
  • Cyllid Gwaith Cymdeithasol a Bwrsariaeth y GIG
  • Cyllidebu eich Hawl i Gyllid Myfyrwyr
  • Pobl sy'n gadael gofal a myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio

Os oes gennych ymholiad neu os ydych chi eisiau gwybod mwy am Wasanaethau Myfyrwyr a chael mynediad at gymorth anacademaidd, ewch i parth-g. Gallwch ddod o hyd i'r parth-g ym mloc A wrth ymyl y brif dderbynfa ar gampws Llandaf neu'r Pwynt Gwybodaeth i Fyfyrwyr yn y Llyfrgell ar gampws Cyncoed.

Holiadur Eich Cynlluniau Gyrfa

Rydym eisiau deall sut i'ch helpu chi i weithio tuag at eich nodau gyrfa tra byddwch chi'n astudio gyda ni. Bydd yr holiadur Eich Cynlluniau Gyrfa yn ein helpu ni i wneud hynny, a byddwch yn cael rhai awgrymiadau ar gyfer dechrau arni yn seiliedig ar eich atebion.

Cwblhewch yr Holiadur Eich Cynlluniau Gyrfa